Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2016
Amser: 08.30 -
08.45
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Peter Greening, Llywodraeth Cymru Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth |
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Byddai Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar Tata Steel.
Cafodd y datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y Cynllun Bathodyn Glas ei dynnu'n ôl ac yn hytrach byddai'n cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 10 Chwefror 2016
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi).
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 25 Chwefror 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1 Mawrth 2016.
Ar 8 Rhagfyr 2015, trafododd y Pwyllgor bapur yn cynnig gwelliannau drafft i Reol Sefydlog 26A mewn perthynas â Biliau Preifat, i ehangu ei chwmpas i gynnwys elfennau coll ac i fod yr un fath â gweithdrefn mewn mannau eraill. Roedd y papur hefyd yn amlinellu cynigion i gyflwyno gweithdrefn ar gyfer Biliau Hybrid, nad yw yn y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd.
Ar ôl ymgynghori â Grwpiau'r Pleidiau, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog. Nododd y Pwyllgor y byddai drafftiau terfynol y Rheolau Sefydlog newydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Busnes er mwyn cytuno arnynt ar ôl cytundeb ar unrhyw newidiadau i Reol Sefydlog 26 oedd yn deillio o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ‘Deddfu yng Nghymru’.
Trafododd y Rheolwyr Busnes gopi drafft o Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes a chytunwyd i roi sylwadau i'r Clerc yn uniongyrchol, yn hytrach na thrafod yr adroddiad gyda'u grwpiau. Byddai adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, a byddai'r adroddiad terfynol yn adlewyrchu unrhyw gasgliadau y daethpwyd iddynt yn y cyfamser ar ethol cadeiryddion pwyllgorau.